Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 8 Gorffennaf 2021
Amser:
09.30 -
10.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12383
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Owain Davies (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Mike Hedges AS fel aelod newydd o’r Pwyllgor ac a oedd yn cymryd lle Alun Davies AS.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.
2 Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod yr adroddiad drafft
2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.
3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru: Trafod y dull o weithredu
3.1 Trafododd y Pwyllgor y papurau ar y dull arfaethedig o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes ynglŷn ag amserlen y gyllideb.
4 Gweithdrefnau’r Pwyllgor Cyllid a’i ffyrdd o weithio
4.1 Trafododd y Pwyllgor y papurau ar weithdrefnau’r Pwyllgor a’i ffyrdd o weithio.
5 Treth Trafodiadau Tir - Adolygiad annibynnol
5.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynglŷn â chwmpas yr Adolygiad Annibynnol o’r Dreth Trafodiadau Tir.